1 Mehefin 2023

 

Mae dros 1500 o fusnesau ffermio o bob rhan o Gymru wedi elwa o grwpiau trafod amlsector a ddarparwyd drwy Cyswllt Ffermio ers 2015. Wrth i ni agor y ffenestr ymgeisio ar gyfer 2023 nawr yw eich amser i elwa ar yr holl gyfleoedd datblygu a dysgu sydd gan ein grwpiau trafod i’w cynnig.

Mae pob grŵp yn cael ei hwyluso gan arbenigwr yn ei faes gwaith, gan gyflwyno rhaglen ddeinamig a deniadol o gyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar agweddau allweddol eich busnes. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae cyfarfodydd grŵp yn rhyngweithiol a lle bo'n briodol yn cael eu cynnal ar y fferm i ddangos arfer gorau. Byddant hefyd yn eich galluogi i roi'r theori ar waith ac yn eich cefnogi i wneud newidiadau yn eich busnes.

Dau unigolyn a ymunodd â grwpiau trafod Cyswllt Ffermio yn ardal Aberystwyth yw’r ffermwr llaeth Martin Griffiths a’r ffermwr defaid Maddy Lewis.

Daeth Martin i wybod am grŵp trafod llaeth Aberystwyth gan ei Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

“Y peth cyntaf a ddysgais oedd deall fy mod ar y trywydd iawn. Mae hynny'r un mor bwysig â dysgu rhywbeth newydd”.

“O hynny ymlaen, rydym ni wedi dechrau defnyddio meillion coch ar y fferm, a diolch i’r bobl y bu i mi gwrdd â nhw yn y grŵp roedd gen i’r hyder i’w wneud”.

Roedd Maddy wrthi’n chwilio am gymorth gan gyfoedion pan ddaeth ar draws y grŵp trafod defaid lleol, a hwyluswyd gan ei swyddog datblygu lleol, Marc Bowen.

“Mae’n braf trafod pethau o ddydd i ddydd. Weithiau, pan rydych chi gartref rydych chi'n meddwl pethau drosodd, ond pan fyddwch chi mewn grŵp trafod, gallwch chi drafod pethau a gwrando ar farn pobl eraill.”

Mae Marc Bowen, Swyddog Datblygu Gogledd Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr yr ardal ers blynyddoedd lawer.

“Rwy’n mwynhau gweithio gyda ffermwyr yn fawr, mae pob ymholiad, pob sgwrs a phob problem yn wahanol ac mae’n wych gallu cynnig cymorth trwy Cyswllt Ffermio i helpu busnesau i ddatblygu ymhellach.”

“Mae clywed bod pobl wedi bod yn rhoi newidiadau ar waith ar eu fferm o ganlyniad uniongyrchol i fynychu grŵp trafod yn wych. Wrth ddod â chriw o bobl frwd ac arbenigwr pwnc ynghyd rydych yn gwybod mai ond pethau da all ddod ohono”.

Roedd Dai John wedi manteisio ar wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio cyn ymuno â grŵp trafod, ond ar ôl sgwrs gyda’i swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Hannah Wright, roedd yn gwybod y byddai’n mwynhau agwedd gymdeithasol y cyfarfodydd grŵp.

“Rwyf wastad wedi mwynhau siarad ag unigolion o’r un anian a gallwch ddysgu cymaint o’r sgyrsiau a gewch dros baned ag y gallwch drwy wrando ar yr arbenigwr yn siarad.”

Soniodd Dai hefyd am bwysigrwydd cyfathrebu a chymdeithasu fel ffermwyr, “Rwy’n mwynhau siarad â phobl o’r un anian a mynd allan o’r tŷ. Nid ydych chi'n mynd i ddefnyddio popeth rydych chi'n ei glywed, ond rydych chi'n clywed rhai pethau, ac yn gwneud newidiadau yma ac acw.”

Mae Dai, sy’n ffermio ym Mhenrhyn Gŵyr, bellach wedi rhoi system bori cylchdro ar waith yn dilyn gwybodaeth a gafwyd drwy Cyswllt Ffermio.

Mae Hannah Wright, Swyddog Datblygu De Cymru, wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n aelod rhagweithiol o’r gymuned ffermio leol.

“Mae gweithio gyda ffermwyr yn wych, rwy’n mwynhau cyflawni rhywbeth o’r cwestiwn neu’r broblem gyntaf honno, a dod o hyd i ateb, neu allu awgrymu gwasanaeth i’r unigolyn hwnnw. Mae clywed bod pobl wedi bod yn rhoi newidiadau ar waith ar eu fferm o ganlyniad uniongyrchol i fynychu grŵp trafod yn wych”.

Llwyddodd grŵp o ffermwyr da byw o Ogledd Cymru a oedd yn rhan o Grŵp Trafod Hiraethog i gasglu gyda’i gilydd amcangyfrif o £26,000 o arbedion cost ar draws eu diadelloedd defaid drwy gynyddu gwerth ynni metaboladwy (ME) eu silwair o 9.6 MJ ME/kg deunydd sych (DM ) i 10.6 dros gyfnod o dair blynedd o fewn y grŵp. Roedd hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r wybodaeth a gafwyd gan siaradwyr arbenigol a roddodd gyngor ar bynciau’n amrywio o iechyd y pridd a rheoli cnydau, hyd at werth maethol porthiant wedi’i silweirio wrth ei fwydo i famogiaid cyfeb.

Mae’r grŵp wedi’i hwyluso gan Guto Owen, Swyddog Datblygu Conwy ar gyfer Cyswllt Ffermio. “Mae cael cyngor gan nifer o bobl ar ystod o arbenigeddau yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnesau - Mae newidiadau bach yn arwain at enillion mawr,” meddai.

Dywedodd Aled Owen, un o aelodau’r grŵp, ei fod wedi elwa o gefnogaeth cyfoedion o fewn y grŵp yn ogystal â chyngor gan ymgynghorwyr. “Mae bod yn rhan o’r grŵp hwn wedi fy arwain i gynyddu fy ngwybodaeth am iechyd y pridd, yn ei dro mae hyn wedi arwain at well cynnyrch cnydau a gwell ansawdd porthiant yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf'.'

Mae cymorth o aelod i aelod wedi bod yn bwysig, yn ôl Guto dyma’r rheswm hollbwysig pam mae’r grŵp wedi bod mor llwyddiannus.

“Mae’r grŵp yn cael sgyrsiau rheolaidd ar y sgwrs grŵp WhatsApp, gan geisio cyngor a rhannu syniadau, y da a'r drwg.''

Os ydych am fod yn rhan o grŵp deinamig a blaengar o unigolion o’r un anian, mae ffenestr recriwtio grŵp trafod Cyswllt Ffermio ar agor i geisiadau o 1 Mehefin i 12yp ar 23 Mehefin. I ddysgu mwy am raglen y grwpiau trafod ac i wneud cais edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn