03 Ebrill 2025
Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol yr ail gyfres o Our Dream Farm, rhaglen deledu boblogaidd ar Channel 4, sydd ar hyn o bryd ar ein sgriniau ar nos Sadwrn. Mae’r ‘fferm freuddwyd’ yn ardal Eryri ac fe fu Cyswllt Ffermio yn rhan o’r broses!
Gallwch wylio’r grŵp olaf o saith ymgeisydd hynod obeithiol – gyda rhai wedi’u ffilmio yng nghwmni eu partneriaid neu berthnasau – wrth iddyn nhw gael eu rhoi ar waith yn yr ail gyfres o Our Dream Farm. Cyflwynydd y rhaglen yw’r bersonoliaeth deledu, y ffermwr a’r arbenigwr ar gefn gwlad, Matt Baker. Mae’r ‘fferm freuddwyd’ eleni wedi’i lleoli yn un o’r llefydd mwyaf syfrdanol yng Nghymru, ac mae ganddi gymysgedd o dir mynydd, coetiroedd ac iseldir.
Mae’r fferm hon, sy’n 248 hectar, yn cael ei disgrifio fel ‘cyfle unwaith mewn oes’ wrth i ymgeiswyr y rhaglen gystadlu i ennill y wobr fawreddog o fod yn denant neu denantiaid arni am 15 mlynedd. Mae’r lle’n cynnwys tŷ sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd a sawl adeilad y tu allan. Mae’r cyfan yn eiddo i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sydd hefyd yn rheoli’r fferm.
Daeth Cyswllt Ffermio yn rhan o’r broses ddethol pan wahoddwyd un o’i fentoriaid ac arweinwyr Agrisgôp, Caroline Dawson, i gymryd rhan yn y rhaglen. Ei gwaith oedd mentora a thiwtora’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn gweithdy ar y fferm. Caroline wnaeth arwain a chynllunio’r gweithdy. Dechreuodd Caroline, arbenigwraig ar arallgyfeirio a bwyd-amaeth o ogledd Cymru, ei diwrnod gyda gweithgaredd ‘torri’r iâ’.
“Gofynnais i aelodau’r grŵp fraslunio llun ohonyn nhw eu hunain a rhestru eu cryfderau. Roedd yna lawer o chwerthin ar y dechrau ond fe sylweddolon nhw i gyd yn fuan iawn fod yr her wedi dechrau go iawn. Oherwydd, dydy o ddim yn hawdd disgrifio’ch hun mewn ffordd sy’n dangos beth sy’n eich gwneud chi’n fwy gwybodus, yn fwy craff eich golygon, yn fwy dygn ac yn fwy abl – mewn geiriau eraill, y tenant gorau i reoli’r fferm anhygoel hon,” meddai Caroline.
Drwy gydol gweithdy undydd Caroline, a gynhaliwyd yn un o ysguboriau hardd y fferm, ymunodd y beirniaid craff, sef Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri, â Matt Baker i arsylwi’r broses gyfan wrth i Caroline gael y saith (wedi’u dewis o’r 11 ymgeisydd gwreiddiol) i gwblhau cyfres o ymarferion.
Prynodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru y fferm hon yn 2012, yn dilyn apêl gyhoeddus lwyddiannus. Hyd at 2020, roedd yr elusen yn rhedeg y fferm mewn partneriaeth ag CFfI Cymru, gan gynnig tenantiaethau tymor byr i bum ‘ysgolor’ oedd yn aelodau o’r mudiad ieuenctid. Mae’r elusen gadwraeth bellach am drosglwyddo’r awenau yn y tymor hir. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i’r tenant neu’r tenantiaid newydd roi egwyddorion rheoli tir a chadwraeth ar waith, gan ddatblygu ar yr un pryd fusnes fferm gwydn, proffidiol ac amrywiol. Ar ben rheoli holl ddefaid y fferm, bydd angen i’r tenant neu’r tenantiaid roi cynllun busnes newydd ar waith sy’n manteisio ar y niferoedd uchel o dwristiaid sy’n ymweld ag Eryri bob blwyddyn.
Dyw’r tir serth o amgylch y fferm ddim yn ddigon cynhyrchiol ar gyfer niferoedd mawr o stoc, ond mae yna gryn botensial i arallgyfeirio. Dyfeisiodd Caroline, hwylusydd profiadol, weithgareddau lle roedd angen i bob cystadleuydd egluro sut roedden nhw’n bwriadu manteisio ar y cyfleoedd i ddenu ymwelwyr a darparu ar eu cyfer, yn ogystal â rheoli gweithgareddau sy’n cynhyrchu refeniw. Ymhlith yr ymwelwyr hyn sy’n tyrru i’r ardal bob blwyddyn mae rhai sy’n caru byd natur, cerddwyr, dringwyr, beicwyr a selogion chwaraeon dŵr. Roedd yn rhaid i’r ymgeiswyr ddangos eu gweledigaeth, gan brofi bod ganddyn nhw’r hyder a’r gallu i gynhyrchu a gweithredu’r cynllun busnes gorau. Byddai’n rhaid i’r cynllun hwn warchod treftadaeth a bioamrywiaeth unigryw’r fferm, a diogelu ei hyfywedd hirdymor drwy dwristiaeth.
Bydd pob rhaglen yn y gyfres gyfredol yn cynnwys gwahanol heriau ac ymarferion ymarferol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dileu un ar y tro nes datgelu’r enillydd neu enillwyr ym mhennod olaf Cyfres 2.
“Mae tenantiaethau o’r safon hon yn hynod brin. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cyfarfod â phob un o’r ymgeiswyr gwych ac wedi chwarae rhan fach mewn proses a fydd yn arwain at gyfle fydd yn newid bywyd yr enillydd neu’r enillwyr,” meddai Caroline.