07 Ebrill 2025
Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn oed yn y galwedigaethau mwyaf ynysig, nad oes rhaid i neb wynebu TB ar ei ben ei hun.
Gan gydnabod effaith fawr TB Buchol ar eu da byw a’u lles personol, ym mis Mai 2024, ffurfiodd pymtheg o ffermwyr o Sir Benfro'r grŵp Agrisgôp cyntaf i ganolbwyntio ar TB.
“Pan ofynnwyd i mi sefydlu’r grŵp, y consensws oedd efallai nad oedd angen y grŵp, ac na all ffermwyr wneud unrhyw newidiadau yn ymarferol a allai helpu wrth ymdrin â TB Buchol. Yr oedd y farn honno ymhell o fod yn wir!” Meddai Dr Bev Hopkins o’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hwylusodd y grŵp Agrisgôp.
Agrisgôp yw gwasanaeth Cyswllt Ffermio sy’n dod â ffermwyr a thyfwyr ynghyd i ddod o hyd i atebion i heriau, datblygu syniadau busnes, a’u helpu i fagu hyder trwy ddysgu gweithredol mewn grŵp.
Sefydlwyd y grŵp Agrisgôp i ychwanegu mwy o werth i brosiect TB Buchol Sir Benfro sy’n gydweithrediad rhwng Iechyd Da a Chanolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei nod yw dod ag ymchwil a datblygu ynghyd â gwaith milfeddygol ymarferol ac arferion ffermwyr ar lefel leol.
Yn benodol, roedd y ffermwyr am ddod at ei gilydd i ffurfio grŵp Agrisgôp clos ac ymddiriedus i rannu profiadau a dysgu sut y gallant gymryd mwy o reolaeth dros yr hyn sy'n aml yn ymddangos yn frwydr amhosibl yn erbyn TB Buchol.
“Rwyf wedi mwynhau cael ffermwyr at ei gilydd i drafod TB Buchol yn fawr iawn, ac mae’r grŵp hwn o ffermwyr wedi cymryd rhan lawn yn y trafodaethau gan rannu syniadau, rhannu profiadau a gwrando ar ei gilydd,” meddai Dr Hopkins.
Dros y 10 mis diwethaf mae'r ffermwyr wedi ymchwilio i newidiadau ymarferol y gallant eu rhoi ar waith o fewn ffiniau eu fferm megis: mesurau bioddiogelwch; brechu; difa gwirfoddol; pasteureiddio colostrwm ar gyfer bwydo lloi; symudiadau gwartheg; a rheoli slyri.
Gall ymdrin â TB Buchol achosi llawer o straen ond mae’r grŵp hwn yn dangos pwysigrwydd iddo beidio â bod yn ynysig gan y gall ffermwyr gefnogi ei gilydd trwy ei effaith emosiynol, gan ddarparu man diogel ar gyfer sgyrsiau agored a chydgefnogaeth.
Roedd Michael Williams, sy'n godro 150 o wartheg ar system odro robotaidd yn Nwyrain Fagwrfran, Cas-mael yn un o 15 o ffermwyr yn y grŵp.
“Mae wedi rhoi’r hyder i mi newid arferion ar fy fferm. Roeddwn i wir yn teimlo nad ydw i’n wynebu TB Buchol ar fy mhen fy hun, sy’n allweddol yn fy marn i,” meddai.
Yn ogystal â dylanwadu ar ymddygiad ffermwyr mewn modd cadarnhaol, gall yr hyn sy’n digwydd ar lefel fferm ddylanwadu’n bwysicach ar ymchwil a pholisi. Mwynhaodd y grŵp daith astudio i Brifysgol Aberystwyth lle cawsant deithiau o amgylch labordai’r Ganolfan Ragoriaeth TB Buchol a Vethub1 cyn cael sgwrs gyda gwyddonwyr sy’n gweithio ar eneteg poblogaeth moch daear, dilyniannu genomau cyfan ac ymchwil a wnaed ar samplau gwaed o wartheg.
Ar ôl y daith, dywedodd Kathy Joules, ffermwr arall o’r grŵp, sy’n ffermio ar Fferm Castell Y Gwcw ger Llan-lwy wrth Dr Hopkins, “Rwyf am ddiolch i chi heddiw, mae cymaint yn cael ei wneud fel fy mod yn teimlo’n fwy positif nag yr wyf wedi ers amser maith. Gwnaeth faint o frwdfrydedd oedd gennych i gyd am y prosiect argraff fawr arnaf.”
Yn dilyn llwyddiant prosiect TB Sir Benfro a grŵp Agrisgôp, rydym nawr yn bwriadu ailadrodd y gwaith yng Ngogledd Cymru.
“Yn dilyn llwyddiant rhyfeddol grŵp Agrisgôp Sir Benfro, a ddangosodd bŵer ffermwyr a milfeddygon yn uno i fynd i’r afael â TB Buchol, mae’n amlwg y gallai efelychu’r model hwn yng Ngogledd Cymru gynnwys yr un manteision,” meddai Dewi Hughes, Pennaeth Iechyd Anifeiliaid ar gyfer Mentera.
“Trwy feithrin amgylchedd cefnogol ar gyfer rhannu gwybodaeth a syniadau a datrys problemau ar y cyd, gallwn rymuso ffermwyr a milfeddygon i gymryd rheolaeth ac ysgogi newid cadarnhaol yn y frwydr yn erbyn TB Buchol. Yn union fel y profodd Sir Benfro, mae gweithredu ar y cyd a phrofiad a rennir yn arfau hanfodol wrth lywio cymhlethdodau TB Buchol,”meddai.