02 Ebrill 2025

Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen hyfforddiant gyda naw cwrs newydd, gan roi cyfleoedd newydd i ffermwyr Cymru ddatblygu eu sgiliau.

Bellach gall unigolion cofrestredig gael mynediad at dros 130 o gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu hyd at 80%. Mae'r cyrsiau byr hyn, a gynigir gan ddarparwyr hyfforddiant achrededig, yn ymdrin ag ystod wahanol o bynciau, wedi'u categoreiddio o dan fusnes, tir, tir - peiriannau ac offer a da byw.

Un o'r cyrsiau a ychwanegwyd at y rhaglen yw Tystysgrif Ryngwladol ar gyfer Llythrennedd Digidol (ICDL) - Ychwanegol, sy'n darparu hyfforddiant mewn prosesu geiriau gan gynnwys creu dogfennau, golygu, fformatio ac uno post. Mae'r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio taenlenni, cyflwyniadau a gwella cynhyrchiant trwy ddysgu’r rhai sy’n cymryd rhan sut i ddewis y feddalwedd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol ar gyfer gwahanol dasgau.

Cwrs newydd arall yw Archwiliad Coed Proffesiynol Lantra sy'n rhoi'r sgiliau i’r cyfranogwyr profiadol sy'n canolbwyntio ar goetiroedd i gynnal archwiliadau coed trylwyr, nodi diffygion ac argymell camau gweithredu o fewn fframweithiau cyfreithiol a rheoli risg. Mae’r cwrs hyfforddiant hwn yn helpu i greu system ddibynadwy ar gyfer archwilio coed, lle gellir egluro a chyfiawnhau’r penderfyniadau a wneir.

Bydd unigolion yn ennill gwybodaeth HACCP uwch ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd trwy'r cwrs Dyfarniad Lefel 3 mewn HACCP ar gyfer Gweithgynhyrchu Bwyd. Mae'r cwrs yn ymdrin â'r camau hanfodol o ddatblygu, gweithredu a gwirio gweithdrefnau sy'n seiliedig ar HACCP, gan ganolbwyntio ar nodi a rheoli peryglon trwy gydol y broses cynhyrchu bwyd.

Mae’r cwrs Gwyddor y Pridd (IBERS) wedi’i gynllunio i edrych ar ffurfiant, priodweddau a swyddogaethau priddoedd, gan bwysleisio eu rôl hollbwysig mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn ymchwilio i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar iechyd y pridd ac yn dysgu defnyddio technegau rheoli cynaliadwy i fynd i'r afael â heriau cyflenwad bwyd heddiw ac yn y dyfodol.

Cwrs arall a gynigir bellach yw Systemau Cyflenwi Cynaliadwy (IBERS) sy'n canolbwyntio ar strategaethau cydweithredol o fewn cadwyni cyflenwi bwyd i wella cynaliadwyedd a diogelwch. Mae'n edrych ar heriau, technolegau arloesol wrth addysgu’r rhai sy’n cymryd rhan i werthuso dulliau cynaliadwyedd a phwysigrwydd rheoli gwybodaeth a pherthnasoedd.

I'r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn trin gwlân, gall dau ddarparwr hyfforddiant gynnig y cwrs hwn – Gwlân Prydain ac Elite Wool Industry Training UK. Bydd Gwlân Prydain yn cynnal cwrs ymarferol undydd ar gyfer dechreuwyr hyd at lefel cystadleuaeth tra bydd Elite Wool Industry Training UK yn cynnal cwrs ymarferol deuddydd ar gyfer pob lefel gallu. Bydd y cyrsiau'n darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn trin cnu, didoli, paratoi, a storio er mwyn sicrhau ansawdd a bod y gwlân yn barod ar gyfer y farchnad.

Cyrsiau eraill sydd ar gael hefyd yw Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn Argyfwng (+F) a Gwyddor Cynhyrchu Da Byw. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyfforddiant newydd hyn ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol, neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn canfod y prif heintiau sy’n achosi mastitis
19 Mawrth 2025 Mae dau bathogen bacterol wedi cael eu hadnabod
Arolwg yn Datgelu Arwyddion Cadarnhaol ar gyfer Adar Tir Amaeth sy’n Destun Pryder o Safbwynt Cadwraeth ar Ffermydd Cymru
18 Mawrth 2025 Mae arolwg diweddar o ffermydd Cymru sy’n cymryd