Cyrsiau Hyfforddiant
…cymhorthdal o hyd at 80% ar gael
…datblygu eich sgiliau... datblygu eich busnes
Mae ymgeisio am sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn broses ar-lein i raddau helaeth, ond gallwch gael ar gymorth a chefnogaeth un i un ar unrhyw gam y gallai fod ei angen arnoch.
Byddem hefyd yn eich annog i gysylltu â’r canlynol…
✔ eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol... neu’r
✔ darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych... neu
✔ Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813
Mae’n rhaid i chi ymgeisio ar gyfer hyfforddiant wedi’i ariannu yn ystod cyfnod ymgeisio ar gyfer sgiliau
- Dydd Llun, 11 Ionawr tan Ddydd Gwener, 26 Chwefror 2021
- Dydd Llun, 3 Mai tan Ddydd Gwener, 25 Mehefin 2021
- Dydd Llun, 6 Medi tan Ddydd Gwener 29 Hydref 2021
DS Bydd pob cyfnod ymgeisio yn agor am 09:00 ar y Dydd Llun ac yn cau am 17:00 ar y Dydd Gwener
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nodwch ar hyn o bryd fod yr holl gyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb wedi cael eu gohirio tan o leiaf y 31ain o Ionawr 2021. Er hyn, mae opsiynau digidol ar gael ar gyfer nifer o gyrsiau. Am fanylion pellach, ewch i dudalennau’r cyrsiau unigol.
Llyfryn Hyfforddiant
Ar ôl cwblhau’r cyrsiau hyfforddiant ‘Cynllunio a Datblygu Busnes’ a ‘Marchnata eich busnes’, magodd Steve yr hyder i lansio ei fusnes ar-lein a dosbarthu newydd, Pembrokeshire Lamb, ac mae’n awr yn gwerthu bocsys o’i gig oen, cig hesbyrniaid a chig dafad ‘gât i’r plât’ gorau yn uniongyrchol i’w gwsmeriaid.