Diweddariad ar Blaladdwyr | Diweddariad Pwysig ar Gynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP)

Os ydych chi’n fusnes, yn sefydliad neu’n unig fasnachwr sy’n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol a chymhorthion yng ngwledydd Prydain (Lloegr, yr Alban a Chymru), mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru erbyn 22 Mehefin 2022 i gydymffurfio â’r rheoliadau. Noder y gallwch gofrestru o hyd. 
Mae angen i chi gofrestru os:

  • ydych yn defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol ac unrhyw gymhorthion fel rhan o’ch gwaith
  • oes gennych Gynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol ac unrhyw gymhorthion sydd wedi’u defnyddio gan drydydd parti fel rhan o’ch gwaith mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau neu goedwigaeth

Defnyddir Cynhyrchion Diogelu Planhigion i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae enghreifftiau yn cynnwys: 

  • pryfladdwyr
  • ffwngladdwyr
  • chwynladdwyr
  • molwsgladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion 

Dysgwch fwy am gofrestru: https://www.gov.uk/government/publications/professional-plant-protection-products-ppps-register-as-a-user.cy