Cyrsiau Hyfforddiant Tir - Peiriannau ac Offer

Carbon – Dewch i ni fynd yn fwy Gwyrdd:

Amaethyddiaeth a’r sector sy’n seiliedig ar ddefnydd tir yw un o’r dylanwadau mwyaf ar newid hinsawdd yn fyd-eang, yn sgil cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau dalfeydd carbon naturiol. Fodd bynnag, mae’r sector hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i dynnu carbon o’r atmosffer a’i storio mewn priddoedd/llystyfiant.

Bydd plannu gwrychoedd a choed yn dal a storio carbon naill ai ar gyfer ei storio yn y tymor hir neu ar gyfer ei ddefnyddio fel dewis amgen i danwyddau ffosil.

Gall rheoli pridd a da byw yn well gynyddu cyfraddau dal a storio carbon a gwella ôl-troed carbon y fferm.

Atal clefydau rhag dod i’r fferm yw’r ffordd fwyaf rhad o’u rheoli ac mae hyn yn atal sgil-effeithiau achosion o glefydau sy’n lleihau effeithlonrwydd ac yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae lleihau tanwyddau a’r defnydd o ynni ar y fferm nid yn unig yn dod â budd economaidd ond yn fuddiol i’r amgylchedd hefyd.

 

Cymhorthdal o 40% ar gael

Am ganllaw ar sut i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi'i ariannu cliciwch yma.