Fel arfer yn gwrs hyfforddiant integredig dros 2 ddiwrnod gydag asesiad. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae ategolion megis peiriant torri perthi ar fraich yn hyblyg iawn ar gyfer gwaith yn yr ardal wledig. Fodd bynnag, heb hyfforddiant digonol, gall defnyddio offer torri mewn modd anniogel arwain at ddamweiniau.
Bydd y cwrs yn eich dysgu sut i ddefnyddio’r teclyn mewn modd diogel a chymwys. Bydd cyfle i bobl amhrofiadol ddatblygu eu sgiliau, a gall defnyddwyr mwy profiadol fireinio eu technegau. Byddwch yn dysgu’r theori y tu ô li ddefnyddio’r offer yn ddiogel, ac unwaith y byddwch wedi dysgu’r gwiriadau priodol cyn defnyddio’r offer, byddwch yn cael cyfle i fagu profiad ymarferol.
Bydd sesiynau’n cynnwys: deddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheolau, gwiriadau cyn decrhau’r peiriant, defnyddio a symud y tractor, ategolion, peiriannau sy’n cael eu llusgo, PTO, llwythwr blaen, diogelwch cyffredinol wrth ddefnyddio peiriant torri perthi ar fraiche, y peiriant torri ei hun, gwiriadau cyn defnyddio, gweithio ar ochr y ffordd, elfennau ymarferol o ddefnyddio peiriant torri ar fraich.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: