Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Acrhediad RoMS - Nod y cwrs yw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn llwyddo yn yr arholiad RoMS (Register of Mobility Scorers) a chael ymuno â’u rhestr achrededig. Mae lle ar y rhestr hon yn rhan ofynnol ar gyfer rhai cytundebau ffermydd llaeth cyn y gellir cyflenwi llaeth ar lefel fasnachol.
Achrediad Lantra Awards - mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig cwrws wedi’i deilwra. System sgorio symudedd pedwar rhan (0-3) AHDB yw’r dull a ddefnyddir amlaf er mwyn sgorio symudedd yn y DU.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Cloffni mewn Gwartheg
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: