Fel arfer yn gwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
PA1 = Mae’r cwrs hwn yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr ac mae’n eich caniatáu i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer Cynnyrch Diogelu Planhigion (Approved Code of Practice for Plant Protection Products). Mae angen i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol, yn enwedig yn ymwneud â defnyddio plaladdwyr.
PA4 = Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio’n benodol i’r rhai sydd naill ai eisiau defnyddio gwasgarwyr peledi neu ronynnau (ar gyfer gwlithod) sy’n gallu cael eu gosod ar gerbyd neu eu llusgo fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd. Bydd y cwrs yn trafod sut i baratoi eich offer a’i gynnal a’i gadw, a sut i’w ddefnyddio a’i raddnodi’n gywir. Mae’r hyfforddiant yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr a’r rhai sy’n defnyddio offer chwistrellu.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: