Cwrs hyfforddiant dros 3 diwrnod yn cynnwys agweddau ymarferol a theori ynghyd ag asesiad integredig. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs hyfforddiant hwn ar gyfer y rhai ohonoch sydd angen gweithio fel person “cymorth cyntaf” cydnabyddedig ar gyfer eich busnes; mae wedi’i lunio ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr neu’r rhai sydd ag awdurdod o fewn grŵp.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol am gymorth cyntaf, er mwyn i chi allu defnyddio technegau syml a allai arbed bywyd yn y gweithle.
Bydd sesiynau’n cynnwys: dadebru, trin pobl anymwybodol, problemau anadlu, problemau cylchrediad, clwyfau a gwaedu, llosgiadau, anafiadau i’r esgyrn, y cyhyrau a’r cymalau.
Mae’n werth nodi: Mae tystysgrifau Cymorth Cyntaf yn y Gweithle yn ddilys am gyfnod o dair blynedd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion gyflwyno rhan o'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.