Cwrs hanner diwrnod o hyd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Nod y cwrs hwn yw rhoi trosolwg o faterion lles ar y fferm sy’n gysylltiedig â chynhyrchu wyau’n fasnachol. Mae’r cwrs wedi’i anelu at rôl rheolwr y safle. Bydd mynychu’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ganfod y ffactorau sy’n effeithio ar les anifeiliaid a sut mae arferion a gweithdrefnau’n diogelu lles yr anifeiliaid yn eu gofal. Bydd dysgwyr yn cael trosolwg o ddeddfwriaeth a gofynion cynlluniau sicrwydd.
Bydd pynciau trafod eraill yn cynnwys;
- Atal straen
- Arwyddion a symptomau iechyd gwael
- Darpariaeth bwyd, dŵr ac amgylchedd
- Gwaredu mewn ffordd drugarog
- Gweithdrefnau monitro salmonela
- Rheoli’r maes
- Canllawiau RUMA
- Cynlluniau iechyd
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Jimmy Hughes Training Services a Grŵp Colegau NPTC gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.