Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae llif arian yn rhan hanfodol o systemau rheolaeth ariannol eich busnes. Os mae arian parod yn mynd i’r busnes yn gynt nag y mae’n dod i mewn, bydd y cwrs hwn o fudd i chi. Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ddeall llif arian, sut i’w reoli ac i wneud eich busnes yn fwy llwyddiannus. Bydd hefyd yn trafod beth yw llif arian, pa wybodaeth mae llif arian yn ei roi i chi, pa feini prawf sy’n cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd ffigyrau yn y gyllideb (gan gynnwys elw gros), cwblhau, addasu a monitro taflenni llif arian a defnyddio llif arian fel adnodd rheoli.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall darparwyr gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.