Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i adnabod eich dull o arwain a sut allwch chi ddefnyddio’r dull hwn i arwain a datblygu eich tîm. Bydd yn eich cynorthwyo i ystyried eich rôl yn ystod cyfnodau o newid ac i ddatblygu eraill. Byddwch yn dysgu sut i ddeall a gweithredu gwahanol ddulliau o arweinyddiaeth a rheolaeth sy’n effeithio ar y ffordd mae busnesau, timau ac unigolion yn perfformio. Byddwch chi’n trafod y gwahaniaeth rhwng ‘arwain’ a ‘rheoli’, gwahanol ddulliau o arweinyddiaeth a’r effaith posibl ar bobl yn ogystal â’r cymwyseddau rheoli allweddol sy’n angenrheidiol er mwyn arwain, datblygu a chefnogi pobl yn effeithiol yn eu swyddi.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Datblygu Sgiliau Arwain a Sgiliau Pobl ar gyfer Busnes Llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall darparwyr gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.