Fel arfer dros 1 i 2 diwrnod gydag asesiad integredig (hyd y cwrs yn ddibynnol ar eich profiad blaenorol o yrru tractor). Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r tractor yn beiriant hanfodol ar gyfer cymaint o fusnesau, ac mae defnyddio’r tractor yn ddiogel ac yn effeithlon yn hollbwysig. Byddwn yn rhoi arweiniad i chi ynghylch y theori sy’n cefnogi gyrru tractor, gyda sesiynau ar faterion iechyd a diogelwch allweddol.
Byddwch hefyd yn cael digon o brofiad ymarferol y tu ôl i’r llyw. Byddwch yn trafod gweithrediad a symudiadau sylfaenol, yn ogystal â defnyddio offer ychwanegol, trelar a’r siafft PTO. Bydd sesiynau’r cwrs yn cynnwys: Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, rheolau, gwiriadau cyn dechrau’r peiriant, defnyddio’r tractor, symud y tractor, offer ychwanegol, peiriannau llusgo, PTO. Bydd y cwrs hwn yn gyfuniad o sesiynau theori ac ymarferol gyda’r cyfle i yrru ar wahanol fathau o dir. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gyrwyr tractor profiadol ac amhrofiadol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: