Tystysgrif VLOS Cyffredinol (GVC)
Cyfunol (Ar-lein ac wyneb yn wyneb)
Tystysgrif yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) (https://www.caa.co.uk/)
Hyd: Ar-lein + 1 Diwrnod
NEU Dystysgrif VLOS Cyffredinol (GVC) a Thystysgrif Cymhwysedd A2
NEU Dystysgrif VLOS Cyffredinol (GVC) a Thystysgrif Cymhwysedd A2 a Hyfforddiant Hedfan
*Os yw’r myfyriwr yn berchen ar ei drôn ei hun, bydd disgwyl iddo hefyd gofrestru fel Gweithredwr Systemau Awyrennau Di-griw (UAS) a thalu £10 am ID Gweithredwr.
Mae’r GVC yn Dystysgrif Cymhwysedd Peilot o Bell, sy’n addas ar gyfer gweithrediadau VLOS (Llinell Welediad Amlwg) yn y Categori Penodol. Mae’n galluogi’r myfyriwr i wneud cais am Awdurdod Gweithredol, a gyhoeddir gan y CAA, sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu categorïau penodol.
Cyn cyrraedd y cwrs, mae’n ofynnol i’r myfyriwr gwblhau’r DAMARES (Cynllun Addysg Cofrestru ar gyfer Modelau o Awyrennau a Dronau) a phasio’r arholiad cysylltiedig drwy wefan CAA, a fydd yn rhoi ID hedfan unigol i’r myfyriwr. Os yw’r myfyriwr yn berchen ar ei drôn ei hun, bydd disgwyl iddo hefyd gofrestru fel Gweithredwr UAS a thalu £10 am ID Gweithredwr.
Mae’r GVC yn cynnwys chwe modiwl cyn-dysgu ar-lein, sef:
- Cyfyngiadau Perfformiad Dynol
- Meteoroleg
- Llywio a Siartiau
- Gwybodaeth Gyffredinol am UAS
- Cyfrifoldebau Gweithredwyr
- Gweithdrefnau Gweithredu
Yna diwrnod o ddamcaniaethau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Ar ddiwedd y dydd, bydd arholiad damcaniaethol llyfr caeedig a fydd yn cael ei oruchwylio.
Ar ôl cwblhau’r arholiad damcaniaethol, byddwn wedyn yn arwain y myfyriwr drwy gynhyrchu ei Lawlyfr Gweithrediadau drwy ddarparu templed a phroses adolygu iddo.
Yn olaf, bydd asesiad hedfan ymarferol yn cael ei gynnal i sicrhau bod yr ymgeisydd yn gallu dangos y lefel ofynnol o sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen i weithredu ei UAS yn ddiogel.
Diwrnod o Hyfforddiant Hedfan
Bydd ein Hyfforddwyr, sydd wedi’u cymeradwyo gan CAA, yn rhoi hyfforddiant hedfan sylfaenol i’r myfyriwr. Byddant hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r myfyriwr am yr awyren a’i dulliau rheoli, ac yn darparu’r hyfforddiant angenrheidiol ar sail lefel sgiliau a phrofiad yr unigolyn, gan ganolbwyntio ar y pethau sylfaenol yn gyntaf.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant a ganlyn ar gael i gyflwyno’r cwrs: