Cwrs hyfforddiant dros 1 neu 2 ddiwrnod gan ddibynnu ar y darparwr. Rhoddir tystysgrif hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Noder y bydd cynnwys y cwrs yn amrywio ychydig gan ddibynnu ar y darparwr.
Cwrs a ddatblygwyd gyda sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru. Mae’r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad sylfaenol i bori eang/pori er lles cadwraeth a defnyddio da byw i gyflawni nodau amgylcheddol. Bydd y cwrs yn trafod pori a systemau pori, iechyd anifeiliaid, lles ac ymddygiad, deddfwriaeth allweddol, rôl a chyfrifoldebau ffermwyr, iechyd a diogelwch ac asesiadau risg, a sut i ddefnyddio technegau trin da byw mewn modd effeithiol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: