Dyma gwrs undydd gyda thystysgrif am gwblhau.
Drwy ganolbwyntio ar drin gwartheg, byddwch chi’n dysgu i ddatblygu systemau mwy diogel, mwy effeithlon a mwy proffidiol wrth weithio gyda’ch da byw. Byddwch chi'n treulio peth amser dan do yn trafod materion a ffactorau sy'n gysylltiedig â thrin da byw yn well, gydag amser ar y fferm yn edrych ar symud gwartheg a systemau trin. Bydd y cwrs yn edrych ar y canlynol: pam mae’n bwysig trin gwartheg yn dda, y prif faterion a ffactorau sy’n arwain at ddamweiniau, manteision trin gwartheg yn dda, synnwyr anifeiliaid, symud da byw yn effeithlon a dylunio systemau trin gwartheg.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: