Mae disgwyl i’r cwrs bara am ddau ddiwrnod, ond cofiwch y gall hyn amrywio yn ôl ffactorau – fel profiad y dysgwyr, y modiwlau neu’r atodiadau a ddewiswyd, neu gymhareb yr hyfforddwyr i’r dysgwyr. Mae hwn yn gwrs asesu a hyfforddi integredig. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r tociwr yn ddiogel ac yn hyderus. Deall bod yr holl ofynion rheoleiddio a diogelwch perthnasol yn allweddol. Byddwch yn cael eich dysgu bod angen y dillad diogelu cywir, yn ogystal â’r ffordd orau o gynnal amgylchedd gwaith diogel. Bydd tystysgrif cymhwysedd yn cael ei dyfarnu ar ôl i chi gwblhau’r cwrs.
Sesiynau’r cwrs:
- Paratoi ar gyfer defnyddio Tociwr a Thorrwr Llwyni
- Cynnal a chadw’r Tociwr/Torrwr Llwyni
- Cynnal a chadw Injan
- Defnyddio’r Trimiwr/Torrwr Llwyni
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: