PA1 = Mae'r cymhwyster hwn yn bodloni gofynion cyfreithiol Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr. Mae’n eich galluogi i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. I gyflawni'r cymhwyster hwn, byddwch yn dangos eich gwybodaeth o’r Cod Ymarfer sy’n cael ei Gymeradwy ar gyfer Cynhyrchion Diogelu Planhigion. Mae'n ofynnol i chi gwblhau'r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol yn enwedig gyda defnyddio plaladdwyr.
PA3a = Mae'r cwrs hwn yn cynnwys sut mae defnyddio chwistrellwr taenu gyda chymorth aer yn ddiogel.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys hyfforddiant ar:
- Hanfodion sut i ddefnyddio bŵm (variable geometry boom) a chwistrellwr aer (air broadcast spray)
- Glendid ac Offer Diogelu Personol
- Egwyddorion gweithio bŵm a defnyddio chwistrellwr aer
- Paratoi’r offer ar gyfer y gwaith
- Graddnodi’r offer
- Cymysgu, llenwi a gwaith ar y safle
- Diheintio, storio a chofnodi
- Chwilio am namau a dod i gasgliad.
Cofiwch mai canllaw yn unig ydy'r amlinelliad hwn. Mae hyd a natur y cwrs yn gallu amrywio . Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023 bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch plaladdwyr
Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn: