Trosolwg o’r cwrs:
Mae'r cwrs yn cwmpasu'r prif risgiau amgylcheddol a chyfleoedd sy'n wynebu sefydliadau; pwysigrwydd effeithlonrwydd adnoddau; effeithiau llygredd, atal, rheolaeth a deddfwriaeth; effaith trafnidiaeth; a gwybod sut y gall gweithwyr gefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae'r cwrs rhagarweiniol undydd hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i ddysgwyr i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r cymhelliant i greu effaith gynaliadwyedd mesuradwy yn eu sefydliad.
Canlyniadau'r cwrs:
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gan y cynrychiolydd y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o:
- Y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd
- Rhwymedigaethau cydymffurfio a gyrwyr busnes ar gyfer newid
- Y prif effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd
- Sut i wella perfformiad amgylcheddol
Cyflwyno'r cwrs:
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb. Bydd yr asesiad yn cynnwys prawf amlddewis 20 cwestiwn ar-lein. Cwblheir hyn drwy borth asesu IEMA a bydd dysgwyr yn derbyn dolen ar ôl cofrestru i'r asesiad. Bydd angen gliniadur ar ddydd y cwrs.
Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn: