Cyflwyniad

Wedi’i gynllunio gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog mewn partneriaeth â Phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru (SMS). Mae’r cwrs hyfforddi Ymarferwyr Adfer Mawndiroedd yn darparu dilysiad gyda chymorth gan Raglen Mawndiroedd yr IUCN ar gyfer y Deyrnas Unedig (DU).

Trosolwg cryno

Mae adfer mawndir yn llais cynyddol o fewn y sector cadwraeth. Wedi'i gynllunio gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog mewn partneriaeth â Phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru (SMS). Mae'r cwrs hyfforddi Ymarferydd Adfer Mawndiroedd bellach yn darparu'r dilysiad hwn gyda chefnogaeth Rhaglen Mawndir yr IUCN y DU.

Bydd y rhai sy’n dilyn y cwrs yn ennill achrediad mewn adfer mawndir ac yn dysgu am yr arfer gorau. Bydd ymarferwyr sydd â phrofiad sylweddol o ecoleg mawndir, rheoli ac adfer yn gyfrifol am gynnig cyngor drwy ddulliau sy’n arddel arfer dda. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn gallu defnyddio’r dulliau hyn ym mhob agwedd ar gynllunio, cyflwyno a monitro adfer safleoedd mawndir diraddiedig.

Mwy o fanylion 
Mae'r rhaglen yn cynnwys: 8 pwnc a fydd yn cael eu cyflwyno dros 2 sesiwn 3 diwrnod ar wahân. 

Rhan 1 - bydd yn canolbwyntio ar y cyfnod paratoi sydd ei angen cyn adfer mawndir. 

Rhan 2 - bydd yn canolbwyntio ar y cam cyflawni’r gwaith o adfer. 

Y pynciau i’w trafod ydy ecoleg mawndiroedd, iechyd a diogelwch, arolygu, adfer ymarferol, cynlluniau adfer, cyflawni gwaith adfer a gwerthuso llwyddiant, eiriolaeth, cyllid a ffynonellau ariannu posibl yn y dyfodol.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o sesiynau yn yr ystafell ddosbarth sy'n cynnwys cyflwyniadau, gweithdai a gweithgareddau rhyngweithiol. 


Bydd y cwrs yn cynnwys 2 ddiwrnod o waith maes i wahanol safleoedd mawndir. Mae'r teithiau maes hyn yn cynnig cyfle i ymarfer rhai o'r sgiliau maes sy’n cael eu haddysgu ar y safle ac i adolygu agweddau ar y cwrs yn y maes. 

Cyn dyddiad dechrau’r cwrs, bydd copïau digidol o restr ddarllen helaeth gan gynnwys papurau a dogfennau pdf yn cael eu darparu. Bydd y deunydd atodol hwn yn rhoi cefndir ar y pynciau a bydd yn cynnwys adnoddau ychwanegol ar gyfer y tasgau a'r gweithgareddau.

Gellir gwneud cais am y cwrs hwn o fis Ionawr ymlaen.

Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn:

Yorkshire Wildlife Trust

Enw cyswllt:
Ellen Shields

 

Rhif Ffôn:
01904 916267

 

Cyfeiriad ebost:
YPP Training

peat.training@yppartnership.org.uk

 

Cyfeiriad gwefan:
Peatland Practitioner LANTRA |

Yorkshire Peat Partnership

(yppartnership.org.uk)

 

Cyfeiriad post:

Unit 23, Skipton Auction Mart

Gargrave Road

Skipton

BD23 1UD


Ardal:
Cymru gyfan
 

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel wrth ddefnyddio Chwistrellwr Taenu gyda Chymorth Aer (PA3a)
PA3a = Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â defnydd diogel o chwistrellwr
Marchnata dros E-bost
Mae'r cwrs marchnata dros e-bost cynhwysfawr hwn yn rhoi cipolwg
Systemau Glaswelltir
Mae gan laswelltiroedd y potensial i gynnig sawl gwasanaeth i