Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cymhwyster ILM Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli yn gymhwyster lefel mynediad i unrhyw un sydd â chyfrifoldebau rheoli ond dim cymhwyster ffurfiol. Mae hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n gobeithio symud ymlaen i swydd reoli ond sydd heb eto ffurfioli eu dealltwriaeth gydag unrhyw hyfforddiant. Bydd o fudd i unrhyw un sydd â swydd reoli neu oruchwylio.

Hyd y Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cymryd hyd at fis i'w gwblhau; mae 3 diwrnod o hyfforddiant, tiwtorial aseiniadau dewisol 1 diwrnod, ac yna mae gennych fis o'r diwrnod hyfforddi diwethaf i gyflwyno a phasio'r aseiniadau.

Canlyniad y Cwrs

Byddwch yn derbyn Gwobr, Tystysgrif neu Ddiploma ILM Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli.

Asesiadau

Bydd angen ysgrifennu 1 aseiniad fesul modiwl. Ar gyfer y Dyfarniad Lefel 3 mae’n 2 aseiniad, tua 2,000 o eiriau.

Cynnwys y Cwrs

Bydd cynnwys y cwrs yn dibynnu ar y modiwlau a gaiff eu cymryd. Dyma rai enghreifftiau o'r modiwlau a gynhelir gennym:

  1. Deall Arweinyddiaeth 
  2. Deall Recriwtio a Dewis Staff 
  3. Rheoli Prosiectau yn y Gweithle 
  4. Deall Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 
  5. Deall Marchnata i Reolwyr 
  6. Deall Costau a Chyllidebau 
  7. Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Datblygu Sgiliau Arwain a Sgiliau Pobl ar gyfer Busnes Llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

CCW - Training Academy (Career Change Wales)

Enw Cyswllt:

Harri Shuffley


Rhif ffôn:
02921 156603


Cyfeiriad ebost:
harri@CareerChangeWales.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.careerchangewales.co.uk


Cyfeiriad post:
2nd Floor, 5 - 7 Museum Place, Caerdydd, CF10 3BD

 

Ardal:
Cymru gyfan

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cwrs Agronomeg (Agored)
Mae’r cwrs Agronomeg hwn yn cael ei gynnig gan Goleg Sir Gâr ac
Marchnata dros E-bost
Mae'r cwrs marchnata dros e-bost cynhwysfawr hwn yn rhoi cipolwg
Cwrs Ymarferwyr Adfer Mawndir
Cyflwyniad Wedi’i gynllunio gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog