Mae’r cwrs Agronomeg hwn yn cael ei gynnig gan Goleg Sir Gâr ac mae wedi'i achredu drwy Agored. Mae’n anelu at sefydlu a rheoli'r amrywiaeth o gnydau sy’n cael eu tyfu yng Nghymru.

Mae'n cael ei addysgu i safon Lefel 4, sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf Lefel Gradd yn y brifysgol.

Cyflwyno’r Cwrs:  Mae hyd y cwrs rhwng pedwar a chwe diwrnod. Yn ddelfrydol, bydd y cwrs wedi'i rannu dros y flwyddyn gyfan fel y gellir gweld cnydau’r fferm ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Mae technegau hyfforddi lle bydd pawb yn cymryd rhan i'w defnyddio drwyddi draw. Bydd y pum diwrnod cyntaf yn cael eu dysgu fel sesiynau yn y dosbarth a disgwylir i ymgeiswyr wneud asesiadau ymarferol ar gnydau yn eu hardaloedd eu hunain. Mae papur a beiros yn cael eu darparu ac o fewn pum diwrnod i bob sesiwn bydd copïau o sleidiau ar gael.    

Y lefelau mynediad isaf ar gyfer y cwrs hwn ydy: TGAU mewn Cymraeg (neu Saesneg), Mathemateg a thair blynedd o brofiad o weithio mewn amaethyddiaeth NEU bum mlynedd yn gweithio ar ffermydd masnachol.
 

Modiwlau 

  1. Cynhyrchu Cnydau. Dewis y mathau mwyaf addas o gnydau.        
  2. Chwyn, adnabod a rheoli.         
  3. Plâu, adnabod, asesu a’r dewisiadau ar gyfer eu rheoli.         
  4. Clefydau.         
  5. Maethiad Pridd a Chnydau       
  6. Cemegau ar gyfer Diogelu Planhigion a Chynhyrchion Gwrtaith. 
  7. Diogelu pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd.
  8. Defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion a gwrtaith.
  9. Twf a Rheolaeth Glaswellt gan gynnwys sefydlu, adnabod rhywogaethau llydanddail a glaswellt. Pryd a pham i ddinistrio hen dir pori a dechrau eto?
  10. Lle bo'n addas mabwysiadu ffermio gwndwn llysieuol a dethol rhywogaethau pwrpasol.

Ar ddiwedd y cwrs bydd arholiad ysgrifenedig o tua 2.5 awr a chyfweliad llafar gyda thiwtor coleg ac asesydd annibynnol. Y marc pasio fydd 70% . Bydd ymgeiswyr yn derbyn cymhwyster ffurfiol sy'n werth 15 credyd ar lefel blwyddyn gyntaf Lefel Gradd fydd yn cael ei dderbyn yn y rhan fwyaf o brifysgolion y Deyrnas Unedig.


Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn:

Coleg Sir Gar

Enw cyswllt:
Helen Williams


Rhif Ffôn:
01554 748346  


Cyfeiriad ebost:

helen.williams@colegsirgar.ac.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.colegsirgar.ac.uk


Cyfeiriad post:
Heol Sandy Road, Pwll, Llanelli, Sir Gâr SA15 4DN


Ardal:
De Orllewin Cymru (mwyafrif y cyrsiau ar Gampws Gelli Aur, Llandeilo)

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cynnal a Chadw, Hanes ac Egwyddorion Ecolegol Dolydd Blodau Gwyllt
Cyflwyniad Mae'r cwrs un neu ddau ddiwrnod hwn yn galluogi
Cloddiwr 360 gradd â thrac (o dan a thros 10 tunnell)
Mae'r cwrs hyfforddi hwn wedi'i ddatblygu i'ch helpu i ddeall sut
Strategaeth Farchnata Digidol
Mae'r cwrs strategaeth farchnata digidol gynhwysfawr hon yn