Mae'r cwrs hyfforddi hwn wedi'i ddatblygu i'ch helpu i ddeall sut i weithredu cloddwyr 360 gradd â thrac yn ddiogel.
Bydd faint o gyfarwyddyd y bydd ei angen arnoch yn dibynnu i raddau helaeth ar eich profiad blaenorol a bydd sesiynau'n cael eu haddasu i ddiwallu eich anghenion. Bydd hyd y cwrs yn dibynnu ar brofiad a bydd yn para o un i bedwar diwrnod.
Bydd y cwrs hyfforddi yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol, ac yna asesiad. Mae sesiynau'r cwrs yn cynnwys:
- Diogelwch offer a'r gyfraith
- Gwybodaeth a pharatoi peiriannau ar gyfer gwaith
- Teithio a symud y peiriant
- Gweithredu peiriant
- Cloddwyr a ddefnyddir fel craeniau (dewisol)
- Asesiad theori
- Asesiad ymarferol
Os byddwch yn bodloni'n llwyddiannus y safonau gofynnol a asesir, byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwysedd (os mai cwrs Lantra ydyw, byddwch yn derbyn cerdyn adnabod sgiliau Lantra ar gyfer eich dewis o dystysgrif).
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid -Modiwl Gorfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: