Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
PA1 = Mae’r cwrs hwn yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr ac mae’n eich caniatáu i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer Cynnyrch Diogelu Planhigion (Approved Code of Practice for Plant Protection Products).
Noder: Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol, yn ernwedig ar gyfer defnyddio offer gwasgaru plaleiddiaid e.e. chwistrellydd bŵm wedi’i osod ar gerbyd (PA2) neu offer â llaw (PA6) neu belenni gwlithod (PA4).
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: