Fel arfer, cwrs hyfforddiant undydd ac asesiad yn ddibynnol ar brofiad.
Mae cerbydau aml dirwedd (ATV) eistedd i mewn (a elwir hefyd yn feiciau cwad) yn beiriannau hynod o ddefnyddiol, gan eu gwneud yn offer poblogaidd, a hanfodol, ar gyfer busnesau amaethyddol. Ond mae eu hyblygrwydd yn golygu bod hyd yn oed y gyrrwyr mwyaf profiadol yn gallu mynd i sefyllfaoedd peryglus. Heb yr hyfforddiant priodol, gall damweiniau difrifol ddigwydd – ffaith sydd yn ganolbwynt i amcanion y cwrs. Bydd y cwrs yma yn eich cynowrthyo i feistrioli’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gyrru cerbyd ATV llywio confensiynol, eistedd i mewn, yn ddiogel a hyderus. Fel mae’r enw’n ei awgrymu, byddwch yn cael profiad hanfodol yn mynd i’r afael a phob tirwedd ac, mewn amodau amrywiol, o brofi dringfeydd i ffyrdd cyhoeddus. Bydd hanfodion allweddol y cwrs yn cynnwys llwytho a thynnu, adnabod ac adrodd ar ddiffygion mecanyddol, a deall materion iechyd, diogelwch a chyfreithiol. Bydd gyrrwyr/defnyddwyr newydd yn ennill y sgiliau sylfaenol angenrheidiol er mwyn defnyddio cerbydau ATV yn effeithiol. Bydd defnyddwyr mwy profiadol yn gwella eu gallu er mwyn cael y gorau o’r cerbyd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: