PA3a = Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â defnydd diogel o chwistrellwr taenu (broadcast sprayer) gyda chymorth aer.
Bydd y cwrs hwn yn cynnwys hyfforddiant ar:
- Yr hanfodion sylfaenol ar ddefnyddio offer chwistrellu bŵm a chwistrellwr taenu aer
- Glendid ac Offer Diogelu Personol
- Egwyddorion gweithio offer chwistrellu bŵm a chwistrellwr taenu aer
- Paratoi’r offer ar gyfer gwneud y gwaith
- Pwysigrwydd gwneud yn siŵr fod yr offer wedi’i osod yn gywir (graddnodi – calibration)
- Cymysgu, llenwi a gwaith ar y safle cyn cychwyn ar y gwaith
- Diheintio, storio a chofnodi
- Gweld sut mae canfod a datrys unrhyw diffyg yn yr offer a dod i gasgliad.
Sylwch mai canllaw yn unig ydy’r hyn sy’n cael ei nodi yma ar gyfer hyd a natur pob cwrs. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol isod cyn gwneud cais am gyllid o
1 Medi, 2023: Yr Uned Orfodol: Diogelwch plaladdwyr
Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn: