Mae gan laswelltiroedd y potensial i gynnig sawl gwasanaeth i gynnal ecosystem. Yn ogystal â chynhyrchu bwyd, maen nhw’n gallu lleihau colli bioamrywiaeth ac, fel dalfa garbon, helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd a chynorthwyo'r newid i fod yn ddi-garbon. 

Mae'r modiwl lefel meistr ar-lein hwn yn edrych ar ystod a dosbarthiad glaswelltir a chnydau porthiant. Mae rheoli maetholion a diogelu'r amgylchedd yn themâu drwyddi draw, yn ogystal â strategaethau ar gyfer pori a phorthiant. Mae’r cwrs yn ymchwilio i rôl bridio a rheoli planhigion. Bydd gwasanaethu ecosystemau a gofynion rheoli amrywiaeth o systemau glaswelltir yn cael eu gwerthuso.


Cynnwys y Modiwl:

  • Amrediad, dosbarthiad ac allbynnau glaswelltiroedd—porfeydd y Deyrnas Unedig (DU) a sut mae ffermio porfa wedi datblygu ac yn gallu newid yn y dyfodol.
  • Nodweddion rhywogaethau ar gyfer porthiant — y cysylltiadau rhwng morffoleg a phatrymau twf blynyddol gydag ansawdd porthiant; sut mae NIRS yn gallu cael ei ddefnyddio i brofi hyn.
  • Cyfansoddiad glaswelltir — sefydlu porfa; sut mae rheoli'n effeithio ar gyfansoddiad glaswelltir.
  • Rheoli plâu a chlefydau mewn amgylchedd sy'n newid —sut mae newid yn yr hinsawdd yn gallu newid effeithiau pla a chlefydau ar laswelltiroedd.
  • Ansawdd y pridd a systemau mewnbwn isel — cysylltu iechyd pridd â chynhyrchiant porfa; sut mae’r broses restru a argymhellir yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer systemau mewnbwn isel.
  • Pori – trosolwg o ddewisiadau pori. Defnyddio technoleg ar gyfer rheoli porfa.
  • Bridio ar gyfer cnydau porthiant. Cipolwg ar raglenni bridio cnydau porthiant IBERS a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
  • Cadw porthiant a bioburo —cynhaeafu gwair a silwair o borfa. Y posibilrwydd o ddefnyddio porthiant mewn bioburo.
  • Maethiad da byw – cysylltu ansawdd pori gyda maethiad anifeiliaid. Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Newid cyfansoddiad braster mewn gwartheg sy’n pori.

Canlyniadau Dysgu
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu:

  • Rhoi manylion am ystod a dosbarthiad glaswelltiroedd a phorthiant a nodweddion y prif rywogaethau o lysiau.
  • Adolygu a gwerthuso datblygiad cnydau porthiant newydd i'w ddefnyddio mewn systemau sy’n seiliedig ar borfa.
  • Adolygu a gwerthuso potensial bioburo glaswellt.
  • Gwerthuso dylanwad rheolaeth a'r amgylchedd ar gyfansoddiad porfa a gwerthuso rhaglenni cnydau porthiant yn feirniadol.
  • Gwerthuso gofynion cadwraeth pori a phorthiant a gwerthuso cynlluniau rheoli glaswelltiroedd a phorthiant a systemau cadwraeth er mwyn darparu'r cynnyrch a'r ansawdd gorau posibl.
  • Arfarnu'n feirniadol y potensial ar gyfer ymchwil gyfredol mewn cynhyrchu a defnyddio cnydau glaswelltir a phorthiant i ddarparu dulliau eraill o fwydo da byw.

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau

Yn dechrau pob mis Medi am 13 wythnos. 

Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn:

Aberystwyth University – IBERS

Enw cyswllt:
Martine Spittle

 

Rhif Ffôn:
01970 621562

 

Cyfeiriad ebost:
rjs@aber.ac.uk

 

Cyfeiriad gwefan:
www.ibersdl.org.uk

 

Cyfeiriad post:
Campws Gogerddan, Aberystwyth, Ceredigion  SY23 3EE

 

Ardal:
Cymru gyfan
 

 

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cwrs Agronomeg (Agored)
Mae’r cwrs Agronomeg hwn yn cael ei gynnig gan Goleg Sir Gâr ac
IEMA Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i'r Gweithlu (undydd)
Trosolwg o’r cwrs: Mae'r cwrs yn cwmpasu'r prif risgiau
Cynnal a Chadw, Hanes ac Egwyddorion Ecolegol Dolydd Blodau Gwyllt
Cyflwyniad Mae'r cwrs un neu ddau ddiwrnod hwn yn galluogi