Yn nodweddiadol 1 i 4 diwrnod gydag asesiad integredig (hyd y cwrs yn ddibynnol ar ba mor brofiadaol yr ydych yn gyrru tractor). Bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl gorffen yn llwyddiannus.
Mae’r tractor yn beiriant hanfodol ar gyfer cymaint o fusnesau, ac mae defnyddio’r tractor yn ddiogel ac yn effeithlon yn hollbwysig. Byddwn yn rhoi arweiniad i chi ynghylch y theori sy’n cefnogi gyrru tractor, gyda sesiynau ar faterion iechyd a diogelwch allweddol. Byddwch hefyd yn cael digon o brofiad ymarferol tu ôl i’r llyw. Trafodir gweithrediadau sylfaenol a symudiadau, a defnyddio ategolion, trelars a’r shafft yrru (PTO). Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys: Deddfwriaeth iechyd a diogelwch, dulliau rheoli, gwiriadau cyn cychwyn, gweithredu’r tractor, symud, offer i’w gosod ar y tractor, peiriannau sy’n cael eu llusgo, PTO. Dyluniwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai newydd i’r maes a defnyddwyr tractorau profiadol.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: