Hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael asesiad a bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.
Datblygwyd y cwrs hyfforddi hwn i’ch helpu i ddeall sut i weithredu tryc codi gwrthbwyso yn ddiogel.
Bydd faint o hyfforddiant y bydd arnoch ei angen yn dibynnu’n bennaf ar eich profiad blaenorol a bydd y sesiynau yn cael eu haddasu i fodloni eich gofynion. Bydd hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad, trafodwch eich gofynion gyda’r darparwr o’ch dewis.
Bydd y cwrs hyfforddi yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol, ac yna asesiad. Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys:
- Diogelwch a Chyfraith Tryciau Codi
- Ardaloedd Cynnal a Chadw Cyffredin a Gwiriadau cyn Cychwyn
- Cychwyn, Stopio a Symud Sylfaenol
- Gweithio gyda Phaledi a Llwythi (fel sy’n berthnasol)
- Asesiad Theori
- Asesiad Ymarferol.
Os byddwch yn llwyddiannus yn bodloni’r safonau gofynnol sy’n cael eu hasesu, dyfernir tystysgrif cymhwyster i chi a cherdyn adnabod sgiliau Lantra ar gyfer y dystysgrif y byddwch yn ei dewis.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: