Fel arfer, cwrs hyfforddiant undydd ac asesiad yn ddibynnol ar brofiad.
Mae cerbydau aml dirwedd (ATV) eistedd arno (a elwir hefyd yn feiciau cwad) yn beiriannau hynod o ddefnyddiol. Mae eu hyblygrwydd yn golygu y gallant weithio gydag amrywiaeth o offer, gan gynnwys ôl-gerbyd/trelar, chwistrellwyr a chwalwyr. Mae hyn yn eu gwneud yn boblogaidd iawn gyda busnesau amaethyddol.
Ond gyda phoblogrwydd daw’r potensial o berygl. Heb yr hyfforddiant priodol, gall damweiniau ddigwydd – ac maent yn digwydd. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif ar gyfer defnyddio cerbyd ATV eistedd arno – gan gynnwys llwythi ac offer sy’n cael ei lusgo. Mae cymysgedd gytbwys o theori a sesiynau ymarferol, gan ddechrau gyda golwg fanwl ar faterion iechyd a diogelwch. Byddwch hefyd yn dysgu am y pethau mân megis cynllunio taith a deall beth yn union all y cerbyd ei wneud. Yna byddwch yn gyrru’r cerbyd mewn cyfres o sesiynau ymarferol. Byddwch yn dysgu sut i wneud symudiadau sylfaenol a mynd i’r afael â gyrru ar amrywiaeth o dirwedd gwahanol a heriol. Bydd defnyddio’r cerbyd gyda llwyth ac offer sy’n cael ei lusgo yn cael ei drafod hefyd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: