Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.
Anelir y cwrs hwn ar gyfer y rhai all fod â chyfrifoldeb am y coed yn eu gwaith.
Byddwch yn dysgu am y problemau iechyd a diogelwch perthnasol, yn ogystal â’r ddeddfwriaeth allweddol a’r asesiadau risg. Bydd sesiwn ymarferol yn nodi coed peryglus hefyd yn rhan o’r cwrs.
Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Asesiad Risg
- Fframwaith Cyfreithiol
- Casglu’r wybodaeth
- Cyfyngiadau a chwmpas yr arolygon
- Coed peryglus
- Ymarferion
- Cloi
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Nodi goblygiadau cyfreithiol a diogelwch coed peryglus
- Gofalu am eich iechyd a diogelwch eich hun tra byddwch yn cynnal arolwg coed sylfaenol a’u harchwilio
- Adnabod coed peryglus
- Pennu lefel y risg
- Penderfynu ar gamau gweithredu priodol
- Casglu a chadw gwybodaeth ddigonol
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: