Cwrs hanner diwrnod o hyd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar lwybrau posibl lle gall clefydau drosglwyddo, a sut all rhoi arferion syml ar waith atal cyflwyniad neu ledaeniad clefydau. Mae’r cwrs yn rhoi trosolwg o glefydau heintus cyffredin, yn ogystal â chlefydau hysbysadwy. Bydd dysgwyr yn edrych ar gamau glanhau a diheintio llwyddiannus, yn ogystal â throsolwg o COSHH. Bydd y cwrs hefyd yn edrych ar bwysigrwydd trafod a storio wyau’n effeithiol yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd wyau.
Bydd pynciau trafod eraill yn cynnwys;
- Arferion bioddiogelwch da
- Monitro hylendid
- Glanhau a diheintio terfynol
- Defnyddio cemegau
- Rheoli gwastraff
- Trafod, storio a marcio wyau
- Materion yn ymwneud ag ansawdd wyau
- Diogelwch y safle
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Jimmy Hughes Training Services a Grŵp Colegau NPTC gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.