Cyrsiau Hyfforddiant Tir
Carbon – Dewch i ni fynd yn fwy Gwyrdd:
Amaethyddiaeth a’r sector sy’n seiliedig ar ddefnydd tir yw un o’r dylanwadau mwyaf ar newid hinsawdd yn fyd-eang, yn sgil cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau dalfeydd carbon naturiol. Fodd bynnag, mae’r sector hwn hefyd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i dynnu carbon o’r atmosffer a’i storio mewn priddoedd/llystyfiant.
Bydd plannu gwrychoedd a choed yn dal a storio carbon naill ai ar gyfer ei storio yn y tymor hir neu ar gyfer ei ddefnyddio fel dewis amgen i danwyddau ffosil.
Gall rheoli pridd a da byw yn well gynyddu cyfraddau dal a storio carbon a gwella ôl-troed carbon y fferm.
Atal clefydau rhag dod i’r fferm yw’r ffordd fwyaf rhad o’u rheoli ac mae hyn yn atal sgil-effeithiau achosion o glefydau sy’n lleihau effeithlonrwydd ac yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae lleihau tanwyddau a’r defnydd o ynni ar y fferm nid yn unig yn dod â budd economaidd ond yn fuddiol i’r amgylchedd hefyd.
Cymhorthdal o 80% ar gael
- Arolygu ac Archwilio Coed Sylfaenol
- Cwrs Sylfaenol BASIS mewn Agronomi (Amaethyddiaeth)
- Defnyddio Alwminiwm Ffosffad yn Ddiogel i Reoli Fertebratiaid
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Rheoli Llygod
- Plannu a sefydlu Coetiroedd
- Pori er Lles Cadwraeth
- Rheoli Coetir ar gyfer Cadwraeth
- Rheoli Cwningod a Gwahaddod - Technegau Trapio
- Rheoli Gwahaddod - Technegau Trapio
- Rheoli Wiwerod Llwyd
- Sgiliau Ymarferol ar gyfer Plygu Perthi