Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau rheoli cwningod a gwahaddod, naill ai’n fasnachol neu o ran diddordeb, gan ddefnyddio dulliau ffisegol. Bydd yr hyfforddiant yn darparu’r ddealltwriaeth i’ch galluogi i gynllunio a chyflawni tasgau rheoli cwningod a gwahaddod. Bydd yn darparu gwybodaeth ymarferol o ddulliau ataliol a chywirol er mwyn gallu cynllunio, gweithredu a monitro rhaglen reolaeth sy’n addas ar gyfer y sefyllfa benodol, gan ddefnyddio dulliau effeithlon a diogel a pharchu’r amgylchedd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: