Mae hwn yn gwrs hyfforddi undydd gydag asesiad integredig. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod gan yr Ymgyrch dros Ddefnydd Cyfrifol o Wenwyn Llygod (CRRU) fel cymhwyster sy’n dderbyniol yn y man gwerthu ar gyfer gwenwyn llygod at ddefnydd proffesiynol. Bydd cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn eich galluogi i brynu gwenwyn llygod proffesiynol.
Yn dilyn newidiadau i God Arfer Gorau CRRU y DU, nid yw hyfforddiant bellach yn dystiolaeth dderbyniol o gymhwysedd ar gyfer prynu gwenwyn llygod proffesiynol. Bydd angen i bobl sy'n dymuno cael prawf o gymhwysedd basio cymhwyster rheoleiddiedig fel y Dyfarniad Lefel 2 mewn Rheoli Cnofilod. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn derbyn tystysgrif achrededig Ofqual.
Mae rheoli cnofilod yn hanfodol ar y fferm, mae llygod mawr a llygod yn lledaenu clefydau ac yn halogi bwydydd.
Mae rheoli cnofilod yn dasg allweddol mewn llawer o fusnesau amaethyddol. Fodd bynnag, mae angen hyfforddiant penodol i sicrhau bod problemau llygod mawr a llygod yn cael eu rheoli'n drugarog ac yn effeithiol. Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd cytbwys o theori a sesiynau ymarferol. Byddwch yn dysgu dulliau rheoli ataliol ac iachaol. Byddwch yn dysgu sut i weithredu a monitro rhaglen reoli briodol. Bydd asesu a defnyddio’r dulliau mwyaf effeithlon a diogel gan roi sylw dyledus i’r amgylchedd yn ganolog i’r hyn a ddysgwch. Ymdrinnir hefyd â deddfwriaeth allweddol a sut i ddefnyddio, cludo a chael gwared ar wenwyn llygod yn ddiogel.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: