Cwrs hyfforddiant ymarferol dros ddeuddydd, gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae perthi’n than bwysig o’n tirlun, fel ffin, cysgod ac fel cynefin i’n bywyd gwyllt. Mae angen eu plannu a’u gosod yn y ffordd gywir fel eu bod yn tyfu’n gryf ac yn goroesi. Mae’r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu ar eich cyfer chi fel unigolyn neu ar gyfer eich busnes sy’n seiliedig ar y tir er mwyn darparu’r sgiliau sylfaenol sy’n angenrheidiol er mwyn plannu a chynnal eich perthi. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn rhwng y cyfnod lle mae’r dail yn cwympo (Tachwedd) a chyn y cyfnod blaguro (Mawrth). Byddwch yn edrych ar elfennau o theori, ond bydd digon o gyfle i ymarfer technegau plygu a gofalu am eich perthi. Bydd sesiynau’r cwrs yn cynnwys: canllawiau diogelwch, offer, rhywogaethau perthi ac elfennau sylfaenol, arddangosfa ymarferol a chyfle i ymarfer.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: