Trosolwg: Defnyddir dronau'n helaeth yn y sector amaethyddol ac mae ganddynt lawer o ddefnyddiau sy'n gwella effeithlonrwydd, costau is, ac yn chwarae rhan sylweddol yn yr ymdrech tuag at Net Zero. Mae cyfreithiau yn ymwneud â dronau yn caniatáu i dronau bach gael eu defnyddio bron yn unrhyw le heb fod angen trwydded drôn gostus yr CAA, ac oherwydd yr amgylchedd gwledig, diboblog mewn amaethyddiaeth, mae'r cyfreithiau hyn hefyd yn caniatáu defnyddio dronau mwy heb fod angen y drwydded gostus. 

Nod: Bydd y cwrs hwn yn dysgu Dysgwyr sut i ddefnyddio drôn yn ddiogel, yn effeithlon, ac yn gyfreithlon yn yr amgylchedd amaethyddol wrth wneud y mwyaf o'r defnydd o dechnoleg i gyflawni tasgau traddodiadol. 

Dull: Mae'r cwrs hwn yn dysgu hanfodion diogelwch, hedfan dronau a'r defnydd amaethyddol niferus ar gyfer dronau. Dysgir amrywiaeth o sgiliau newydd i ddysgwyr a fydd yn gwella diogelwch ac yn darparu ffordd fwy effeithlon ac ecogyfeillgar o gyflawni gwaith amaethyddol. Mae'r cwrs wedi'i anelu at berchnogion fferm a gweithwyr cyflogedig. I weithiwr yn y sector, bydd y cwrs hwn yn gwneud iddynt sefyll allan oddi wrth eu cyfoedion yn y farchnad swyddi. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a enillir yn helpu eu ffermydd i lwyddo yn y sector ffermio cystadleuol ac economaidd galed.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Simply the Best Training Consultancy Ltd

Enw cyswllt:
Julie M Thomas


Rhif Ffôn:
01443 670267


Cyfeiriad ebost:
julie@simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.simplythebesttc.co.uk


Cyfeiriad post:
Caerlan Farm, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf CF40 1SN


Ardal:
Cyrsiau llif gadwyn, plaladdwyr, cymorth cyntaf ac ATV yn Ne Ddwyrain Cymru. Popeth arall ar gael ar draws Cymru gyfan


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cadw Llyfrau, TAW a Gwneud Treth yn Ddigidol
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn
Cynnal a Chadw Llif Gadwyn, Trwslifio, Torri a Phrosesu Coed hyd at 380mm
Cwrs hyfforddiant dros 5 diwrnod gydag asesiad annibynnol a
Hylendid a Bioddiogelwch (Pasbort Dofednod)
Cwrs hyfforddiant hanner diwrnod, a rhoddir tystysgrif ar ôl