Trosolwg:
Mae rheoli maetholion yn effeithiol yn rhan hanfodol o gynhyrchu cnydau proffidiol o ansawdd uchel wrth hefyd warchod yr amgylchedd ehangach. Mae Cynllun Ardystio a Hyfforddi FACTS yn ymdrin ag arfer gorau o ran defnyddio gwrtaith a rheoli maetholion planhigion, ac mae’n caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod yn gallu darparu cyngor ar reoli maetholion yn effeithiol sy’n cyfrannu at system cynhyrchu cnydau gynaliadwy wrth reoli’r pwysau o ddiogelu’r amgylchedd ehangach.
Mae rheoli maetholion bob amser wedi chwarae rhan hanfodol mewn cynhyrchu cnydau, ond yn sgil pwysau amgylcheddol cynyddol a’r angen i gynhyrchu cnydau mewn ffordd fwy effeithlon a chynaliadwy, nid yw deall sut i optimeiddio mewnbynnau cnydau fel tail organig a gwrteithiau gweithgynhyrchu erioed wedi bod yn bwysicach.
O ganlyniad i gwblhau’r cymhwyster FACTS yn llwyddiannus, byddwch yn deall yn iawn rôl gwrtaith mewn cynhyrchu cnydau ac yn cael eich cydnabod fel cynghorydd cymwys. Mae’r gofyniad i ffermwyr gael cyngor ar faeth cnydau gan gynghorydd cymwys FACTS wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau gwarant fferm, gan gynnwys Cynllun Gwarant Fferm y Tractor Coch. Felly mae'n gymhwyster hanfodol ar gyfer nifer o swyddi o fewn y diwydiant.
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn:
Mae Cynllun Ardystio FACTS wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sydd am ddatblygu cymhwysedd mewn darparu cyngor ar wrtaith gan roi sylw dyledus i ddiogelu’r amgylchedd, gan gynnwys cynghorwyr, cynrychiolwyr gwneuthurwyr, ffermwyr a rheolwyr fferm sy’n ymwneud â chynhyrchu cnydau a rheoli fferm yn ehangach. Mae’r cwrs FACTS nid yn unig yn ymdrin â chynhyrchu cnydau âr ond hefyd yn edrych ar storio a defnyddio tail organig, cynhyrchu cnydau porthiant a rheoli glaswelltir, felly mae’n gymhwyster hynod fuddiol i’r rhai sy’n gweithio ar ffermydd cymysg. Bydd y Dystysgrif FACTS yn amhrisiadwy i reolwyr fferm ac agronomegwyr sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar wasgaru gwrtaith a chylchdroi cnydau yn ddyddiol. Bydd deall sut i reoli mewnbynnau maetholion yn effeithiol nid yn unig yn gwella proffidioldeb y fferm ond bydd hefyd yn sicrhau bod y fferm yn gweithredu gan ddilyn yr arferion gorau presennol a bodloni gofynion Deddfwriaeth y DU.
Cynnwys y Cwrs:
- Y pridd mewn perthynas â maeth planhigion
- Ffynonellau maetholion organig
- Natur a phriodweddau gwrteithiau
- Maetholion cnydau mewn planhigion a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar gynllunio rheoli maetholion
- Defnydd o wrtaith ar y prif grwpiau cnydau yn y DU
- Cludo, storio a thrin gwrtaith
- Chwalu gwrtaith
- Cod Ymarfer Amaethyddol Da a gofynion cyfreithiol a gofynion eraill i warchod yr amgylchedd
Gofynion Mynediad:
Mae'r cwrs yn rhagdybio lefel sylfaenol o wybodaeth agronomeg, felly argymhellir yn gryf bod gennych ddwy flynedd o brofiad mewn agronomeg ar y fferm.
Noder bod hwn yn gwrs dwys iawn. Sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r darparwr i drafod manylion y cwrs ac i wirio ei argaeledd. Diolch.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: