Cwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r asesiad yn llwyddiannus.
Mae alwminiwm ffosffad yn gyfansoddyn peryglus. Wrth ei ddefnyddio’n anghywir, gall fod yn beryglus i iechyd a diogelwch defnyddwyr, y cyhoedd ac anifeiliaid sydd ddim yn cael eu targedu. Bydd y cwrs yn darparu gwybodaeth fanwl am y cynnyrch perthnasol sydd ar gael yn fasnachol, yn ogystal â’r offer i’w ddefnyddio. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio alwminiwm ffosffad mewn sefyllfa fasnachol, fel gweithredwyr rheoli pla, ffermwyr, ciperiaid a gofalwyr tir glas. Bydd y cwrs yn trafod materion cyfreithiol a diogelwch allweddol. Bydd storio, cludiant, trin a gwaredu yn cael ei drafod hefyd. Bydd sesiynau’r cwrs yn cynnwys: Y gyfraith, diogelwch, atal cyswllt â’r cyfansoddyn a chymorth cyntaf, yr amgylchedd a bywyd gwyllt, labelu, cynhwysydd y cynnyrch, storio a chludiant, offer ar gyfer defnyddio’r cynnyrch, trin a gwaredu gormodedd o blaleiddiaid a gollyngiadau, a chadw cofnodion.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Noder: Mae newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn i fod yn berchen ar yr offer perthnasol cyn y gallant wedyn ddefnyddio alwminiwm ffosffad gan gynnwys: offer ar gyfer defnyddio’r cynnyrch, cyfarpar diogelu personol ac offer ynysu a monitro sydd yn cynnwys monitor nwy.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: