Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae sicrhau bod eich tir heb unrhyw dwmpathau gwahaddod yn hanfodol. Gall pridd o dwmpathau gwahaddod halogi eich porthiant, yn enwedig silwair, a dyma’r prif factor sy’n achosi listeria mewn da byw, a all arwain at farwolaeth.
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth i chi er mwyn gallu cynllunio a gweithredu technegau rheoli gwahaddod. Bydd yn rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am ddulliau atal a gwella er mwyn gallu cynllunio, monitro a rheoli rhaglen sy’n addas ar gyfer y sefyllfa benodol gan ddefnyddio dulliau effeithiol a diogel sy’n gofalu am yr amgylchedd hefyd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: