Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.
Diben y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ymgeiswyr i reoli coetir pan fydd cadwraeth natur yn brif nod. Mae’r cwrs hwn yn trafod hanes sylfaenol coetiroedd Prydain, strwythur y goedlan, heriau rheoli a’r technegau a sut y gallant effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid, nodweddion coetir ac egwyddorion rheoli er budd cadwraeth.
Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys:
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Cael y wybodaeth sylfaenol i reoli coetir pan fydd cadwraeth er budd natur yn brif nod
- Gwybodaeth am hanes sylfaenol Coetir Prydain
- Gwybodaeth am y pedair haen mewn coetir a’u pwysigrwydd i fioamrywiaeth
- Gwybodaeth am y dulliau traddodiadol o reoli coetir a sut y gall y dulliau hyn, pan fyddant yn addas, ychwanegu at gadwraeth coetir
- Gwerthfawrogi’r blaenoriaethau ar gyfer cadwraeth coetir
- Gwybodaeth am Ddangosyddion Coetir Hynafol Rhannol Naturiol
- Sylweddoli a ddylid ymyrryd neu beidio er budd cadwraeth
- Pryd y gall teneuo, adfywio a phlannu fod yn addas ar gyfer cadwraeth
- Deall cyfraniad llennyrch, darnau agored a choed marw/ar farw at gadwraeth
- Egwyddorion rheoli ar gyfer cadwraeth natur
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: