Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.
Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n cael ei gyflogi i blannu a sefydlu coetiroedd
Mae Cwrs Plannu a Sefydlu Coetiroedd Lantra yn trafod pob agwedd ar blannu coed ar gyfer coedwigaeth fasnachol. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb. Cwrs ymarferol yw hwn sy’n rhoi sgiliau ymarferol a chyfarwyddyd iechyd a diogelwch yn ogystal â dangos eich bod chi a’ch cyflogwr wedi cwblhau hyfforddiant digonol i fodloni Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith 1998 (PUWER).
Mae’r cwrs hwn yn trafod sut i blannu coed yn fasnachol yn ddiogel gyda sesiynau theori yn trafod y goblygiadau iechyd a diogelwch wrth weithio gyda choed wedi eu plannu, bioddiogelwch a’r ddeddfwriaeth berthnasol. Yn ogystal ag amser yn y dosbarth byddwch yn cael dysgu’r technegau ymarferol a ddefnyddir wrth blannu coed.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: