Cyflwyniad 

Mae gwlyptiroedd yn rhan bwysig o'r dirwedd naturiol; maen nhw’n gynefin pwysig i lawer o ffynonellau bywyd gwyllt, adar a phryfed, ac yn glanhau’r dŵr a ddefnyddiwn. Mae pob corff dŵr yn mynd trwy broses olyniaeth naturiol sy'n golygu bod angen iddyn nhw gael eu rheoli os ydyn nhw am barhau i ddarparu'r adnodd pwysig hwn. P'un a oes gennych bwll neu ardal gwlyptir sy'n bodoli eisoes, neu'n bwriadu creu un newydd, mae'n bwysig ei bod yn cael ei rheoli'n briodol er mwyn iddi weithredu'n gywir. 

Trosolwg cryno

Mae cyrff dŵr yn adnoddau pwysig sy'n gweithredu fel ffynhonnell ar gyfer dyfrhau, hamdden ac fel nodweddion o’r dirwedd. Mae systemau dyfrol yn ddeinamig ac maen nhw’n gallu cael eu llyncu’n gyflym gan lystyfiant neu eu dominyddu gan algâu. Mae eu cynnal yn gofyn am ddealltwriaeth o rai egwyddorion ecolegol sylfaenol, megis rhywogaethau dangosol, y mae'r cwrs hwn yn eu harchwilio.

Y manylion manylach 

Datblygwyd y cwrs hwn, a ddarperir gan ecolegydd arbenigol, ar gyfer perchnogion tir a'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal pyllau neu wlyptiroedd sy’n bodoli eisoes, neu sy'n dymuno creu system newydd ar eu safle.

Argaeledd cyrsiau

Cwrs Darpariaeth a Addaswyd gan Lantra yw hwn. Mae wedi'i deilwra i anghenion pob sefydliad ac mae'n digwydd ar eu safle. Mae cyfranogwyr yn derbyn cyngor ac arweiniad sy'n benodol i'w lleoliad eu hunain yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol.

Dylid gwneud pob ymholiad ar ran sefydliadau i'r darparwr hyfforddiant:

Sampson Training Ltd (Grounds Training)

Enw cyswllt:
Ellie Parry

 

Rhif Ffôn:
01865 509510

 

Cyfeiriad ebost:
info@groundstraining.com

 

Cyfeiriad gwefan:
www.groundstraining.com

 

Cyfeiriad post:
Bridgend

 

Ardal:
Cymru gyfan
 

 

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cyflwyniad i Gynllunio Busnes Amaethyddol
Cwrs undydd gyda thystysgrif yn dilyn cwblhau’r cwrs yn
Dyfarniad Lefel 2 Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1)
Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod
Rheoli Timau Achlysurol a Thymhorol
Cwrs undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r