Cyrsiau Hyfforddiant Da Byw

Carbon – Dewch i ni fynd yn fwy Gwyrdd:

Bydd gwella hylendid a hwsmonaeth da byw, optimeiddio cynllunio a monitro bioddiogelwch, brechu ac iechyd y genfaint/praidd yn lleihau eich ôl troed carbon. 

Mae sicrhau iechyd anifeiliaid da yn hollbwysig ar gyfer lleihau ôl troed carbon eich fferm. Gall problemau fel cloffni, llyngyr a chlefydau eraill gael effaith negyddol ar gynhyrchiant ac ar ôl troed carbon eich fferm.

Gall ddefnyddio anifeiliaid gyda gwell genomeg wella cyfraddau tyfiant, ffrwythlondeb a lleihau costau cynhyrchiant ac ôl troed carbon y fferm.

Mae anifeiliaid iach yn fwy cynhyrchiol ac mae ganddynt gyfraddau tyfiant/gallu gwell. Bydd llai o allyriadau yn gysylltiedig â’r anifail dros ei oes.

 

Cymhorthdal o 80% ar gael

Am ganllaw ar sut i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi'i ariannu cliciwch yma.