Gall hyd y cwrs amrywio - gwiriwch gyda’ch darparwr hyfforddiant os gwelwch yn dda. Bydd tystysgrif cymhwysedd yn cael ei darparu ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Bydd y cwrs hyfforddiant hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a theori.
Bydd y cwrs hyfforddiant hwn yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn rhoi meddyginiaethau milfeddygol mewn modd diogel ar y fferm. Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu sut i gadw cofnodion manwl a phwysigrwydd sicrhau bod cofnodion cywir ar gael. Byddwch hefyd yn dysgu sut i storio meddyginiaethau’n gywir a sut i roi meddyginiaethau milfeddygol yn unol ag egwyddorion iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs hwn hefyd yn edrych ar bwysigrwydd arferion da o ran lles anifeiliaid.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Embryonics gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.