Dyma gwrs hyfforddi deuddydd gydag asesiad integredig.
Rhoddir tystysgrif Gwlân Prydain ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.
Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i chi allu sefydlu, cynnal, iro ac addasu offer cneifio er mwyn gweithio’n ddiogel a phriodol, yn unol â llawlyfr y gwneuthurwr. Trin defaid gan ystyried lles yr anifail a diogelwch personol. Cneifio defaid mewn modd cymwys, heb gymorth, i’r ansawdd a’r safonau ansoddol fel sy’n ofynnol gan gynllun ardystio Gwlân Prydain. Cyflwyno’r cynnyrch gwlân i'w werthu, gan ddeall pwysigrwydd ffactorau sy’n effeithio ar ei werth.
Cysylltwch â'r Bwrdd Gwlân yn uniongyrchol i archebu'r cwrs. Peidiwch ag archebu trwy eu gwefan.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
SYLWCH FOD Y FFENESTR YMGEISIO BELLACH WEDI CAU AR GYFER 2025. OS OES GENNYCH UNRHYW YMHOLIADAU, CYSYLLTWCH Â'R DARPARWR YN UNIONGYRCHOL NEU CYSWLLT FFERMIO AR 03456 000 813. DIOLCH.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: