Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Nod y gweithdy yw cynyddu dealltwriaeth y mynychwyr o ddiogelwch ac arfer dda, yn ogystal ag amlinellu’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer defnyddio meddyginiaethau ar y fferm. Mae’r cwrs hefyd yn anelu at ddatblygu dealltwriaeth mynychwyr o’r gwahanol fathau o feddyginiaethau a ddefnyddir a sut mae’r rhain yn berthnasol i’r clefydau cyffredin sydd i’w gweld ar eu ffermydd. Trwy fynychu’r cwrs, byddwch yn dysgu sut i: roi meddyginiaethau milfeddygol i’r anifeiliaid sydd yn eich gofal, storio a chadw meddyginiaethau ar y fferm yn unol â gofynion deddfwriaethol a gwarant fferm, disgrifio’r gwahaniaeth rhwng brechlynnau a thriniaethau a’r gwahanol ddosbarthiadau deddfwriaethol, disgrifio’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng gwahanol fathau o wrthfiotigau a’r angen am arweiniad milfeddygol er mwyn eu defnyddio, disgrifio’r dosbarthiadau sylfaenol o driniaeth anthelminitig a’r angen am arweiniad milfeddygol neu SQP er mwyn eu defnyddio, deall sut mae cyffuriau NSAID yn gweithio a sut y dylid eu defnyddio. Byddwch yn dod i ddeall y cyfrifoldeb sydd ar y rhai hynny sy’n rhoi meddyginiaethau i anifeiliaid fferm.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch oherwydd cyfyngiadau presennol yn sgil Covid 19, gall y darparwyr isod cyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.