Bydd y modiwl ôl-raddedig hwn, a gynhelir ar-lein, yn rhedeg am dri mis, gan ddechrau ym mis Mai. Dylai’r sawl sy’n ymgymryd â’r cwrs feddu ar naill ai gradd dosbarth cyntaf, neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn amaethyddiaeth. Gallwch ymgymryd â’r cwrs fel DPP ar ei ben ei hun, neu gallwch ei ddefnyddio i adeiladu tuag at gymhwyster ôl-raddedig.
Cyflwyniad a throsolwg o systemau cynhyrchu da byw
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar sut mae gwella effeithlonrwydd systemau cynhyrchu da byw ‘dwys’ a ‘llai dwys’. Mae’n tynnu ar ymchwil yn IBERS ac mewn mannau eraill a bydd yn ymdrin â phynciau fel y canlynol: twf a datblygiad da byw, parasitoleg, technolegau atgenhedlu, technolegau ffermio da byw manwl gywir, epidemioleg clefydau, a pherfformiad a lles da byw.
Canlyniadau Dysgu:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd y sawl fydd yn ymgymryd â’r cwrs yn gallu gwneud y canlynol:
- Byddan nhw’n gallu adnabod cydrannau systemau cynhyrchu da byw a dangos dealltwriaeth o'r perthnasoedd rhyngddyn nhw;
- Byddan nhw’n gallu adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a defnyddio'r canlyniadau i ddatblygu systemau cynhyrchu da byw;
- Byddan nhw’n gallu egluro sut mae modd defnyddio ymchwil i gynyddu effeithlonrwydd da byw.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.